Ynglŷn â Pur a’n Cegin Organig

Mae Pur wedi ei gymeradwyo gan Gymdeithas y Pridd gan ein bod yn credu taw eu symbol nhw mae'r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn ei adnabod fel arwydd o gyfanrwydd organig y cynnyrch.

Fel mam i ddau o blant sydd hefyd yn gweithio, a thrwy sgwrsio â rhieni eraill wrth glwyd yr ysgol, rwy’n gwybod pa mor anodd yw trio dod o hyd i’r amser i goginio prydau cartref maethlon bob dydd. Yn ogystal â thrio gwneud yn siŵr bod eich babis yn derbyn prydau iach, amrywiol, 2-3 gwaith y dydd - mae’n hawdd deall pam mae rhieni prysur yn prynu prydau parod o’r siopau.

Fodd bynnag, fel rhieni mae gennym ni reolaeth lwyr dros yr hyn mae’n plant yn ei fwyta ac, i rai, mae hyn yn gyfrifoldeb brawychus. Mae pob rhiant am roi’r dechreuad gorau posibl i'w blant - dyna sut ddaeth y syniad o ‘Pur’ i fodolaeth - rhoi bwyd babanod organig o ansawdd uchel i bobl am bris rhesymol - heb y drafferth o goginio gartref.
Datblygwyd ryseitiau Pur yn unol â chyngor arbenigol gan Therapydd Maeth cymwysedig, May Lauder, sy’n aelod cyflawn o Gymdeithas Therapyddion Maeth Prydain (BANT) ac sydd â dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant arwylo.

Mae Pur wedi cofrestru gyda, ac yn cael ei reoleiddio gan Adran Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir Caerfyrddin. Rydym wedi cydweithio’n agos gyda’n Swyddog Iechyd yr Amgylchedd lleol ac mae pob saig wedi ei brofi’n ficrobiolegol mewn labordy profi bwyd er mwyn sicrhau bod pob agwedd ar ei baratoad mor rhydd â phosibl oddi wrth lygriad microbiolegol. Mae pob aelod o’r staff wedi cael hyfforddiant Hylendid Bwyd hyd Lefel Sylfaen.
Yn unol â gofynion llym yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar brosesu bwyd, er mwyn sicrhau bod y prosesau paratoi a chynhyrchu’n gywir, mae Pur wedi datblygu gweithdrefnau HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol) manwl. Mae gennym ni ddulliau sicrwydd ansawdd llym, er enghraifft cofnodion olrheinedd llawn sy’n ein galluogi i olrhain pob cynhwysyn ym mhob saig yn ôl i’r fferm, cae neu gyflenwr.

Mae rheoliadau’r UE yn mynnu bod rhaid i fusnesau gael eu trwyddedu gan gorff ardystio cofrestredig er mwyn marchnata eu nwyddau fel rhai organig. Mae cofrestru’n cynnwys proses gais sy’n cynnwys archwiliad o’r safle gan y corff ardystio ac archwiliadau blynyddol ar ôl hynny er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r safonau cyfreithiol fel y nodir gan yr UE a Defra. Er mwyn cyrraedd y safon hon, mae'n rhaid gweithredu systemau rheoli ansawdd ychwanegol er mwyn sicrhau bod pob cynhwysyn a ddefnyddir yn dod oddi wrth gyflenwr organig cymeradwy. Ar ôl cyrraedd y safon, cewch ddefnyddio logo’r corff ardystio ar eich cynhyrchion (gyda chaniatâd y corff) i ddangos i gwsmeriaid bod y seigiau’n 100% organig.

Mae Pur wedi ei gymeradwyo gan Gymdeithas y Pridd gan ein bod yn credu taw eu symbol nhw mae'r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn ei adnabod fel arwydd o gyfanrwydd organig y cynnyrch.

Bwyd Babi Organig ffres

Ma na falchder o fewn Pur bod ein prydau bwyd yn rhydd o:

  • Dim halen neu sigwr ychwanegol
  • Dim blasau new liwiau artiffisial
  • Dim cadwolion artiffisial
  • Dim cynnyrch GM

Dosbarthwn ni

Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.

Ar hyn o bryd rydym yn dosbarthu i’r ardaloedd cod post hyn: SA1, SA2, SA3, SA4, SA5, SA6, SA7, SA14, SA15, SA16, SA17, SA18, SA19, SA20, SA31, SA32, SA33, SA34.

Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.

Call 01269 871671
Gwasanaeth gwyliau

Ar eich Gwyliau yn y De Orllewin? Os ydych chi ar eich gwyliau yn y De Orllewin a ddim am orfod treulio amser yn y gegin, gall Bwyd Babi Organig Pur eich helpu. Rydym yn cynnig gwasanaeth gwyliau lle gallwch archebu’ch prydau ymlaen llaw i gyrraedd eich llety ar ddiwrnod cyntaf eich gwyliau!

Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau eich siopa ar-lein, llenwi manylion y cyfeiriad gyda manylion eich cyrchfan gwyliau, a phennu amser dosbarthu addas.

Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau’r trefniadau, yna gallwch chi eistedd yn ôl a gadael y gweddill i ni!