Cyngor am Ddiddyfnu
Beth yw diddyfnu?
Diddyfnu yw cyflwyno ystod o fwydydd, ansoddau a blasau trwy symud eich babi o fwydydd llaeth i purées bwyd llyfn, yna ymlaen i purées mwy garw nes bod y babi’n bwyta’r un bwyd â gweddill y teulu.
Pryd ddylwn i ddechrau diddyfnu?
Mae arbenigwyr iechyd yn cytuno mai tua chwe mis yw’r oedran gorau ar gyfer cyflwyno bwydydd solet, ond os byddwch yn dewis diddyfnu’n gynt na hyn, ni ddylid cyflwyno bwyd solet cyn 17 wythnos.
Pryd fydda i’n gwybod bod fy mabi’n barod?
Tua chwe mis oed, dylai’ch babi fod yn barod i'w symud ymlaen i ddiet cymysg. Ystyriwch roi bwydydd solet pan fydd eich bai’n dechrau:-
- Eistedd ar ei ben ei hun
- Bod eisiau cnoi ac yn rhoi teganau a gwrthrychau eraill yn ei geg
- Yn edrych ar eich bwyd chi fel pe bai’n dyheu am ei flasu a / neu’n trio ymestyn a gafael
Sut mae dechrau diddyfnu?
Yn gyntaf i gyd, caniatewch ddigon o amser ar gyfer bwydo. Peidiwch â rhuthro na gorfodi’ch babi a pheidiwch â phoeni os bydd yn poeri allan cymaint ag sy’n mynd i mewn i’r geg. Sicrhewch fod eich babi’n eistedd yn syth ac yn wynebu’r blaen - cadair uchel sydd orau.
Dechreuwch trwy gynnig ychydig bach o purée neu reis babi. Cofiwch droi bwyd ar ôl ei dwymo (i gael gwared ar unrhyw “fannau poeth”) a gwiriwch dymheredd y bwyd cyn ei weini i’ch babi. Mae rhai babis yn cymryd amser i fwyta bwydydd newydd felly byddwch yn amyneddgar. Gadewch i’ch babi gyffwrdd â’r bwyd os yw'n dymuno, a byddwch yn barod am beth llanastr!
- Dechreuwch trwy gynnig ychydig o lwyeidiau o fwyd unwaith y dydd.
- Ceisiwch roi amrywiaeth o fwydydd ac ansoddau i’ch babi i’w blasu.
- Gadewch i’ch babi ei fwydo’i hunan, gan ddefnyddio’i fysedd, os bydd yn dangos diddordeb.
- Os nad yw’ch babi fel pe bai eisiau’r bwyd, arhoswch a rhowch gynnig arall arni’n ddiweddarach, ond peidiwch byth ag aildwymo bwyd babis.
- Arhoswch i’ch babi agor ei geg pa fyddwch yn cynnig bwyd.
Unwaith bydd eich babi’n bwyta’r reis babis a’r purées llyfn yn hapus, rhowch gynnig ar gyflwyno blasau ac ansoddau gwahanol i’w ddiet.
Gadewch i’ch babi, a faint mae am ei fwyta, eich arwain. Os yw eich babi’n edrych fel pe bai eisiau rhagor arno, rhowch ychydig ragor iddo.
Ewch o gynnig bwyd solet unwaith y dydd i ddwywaith ac yna teirgwaith y dydd. Wrth i’ch babi dyfu a symud mwy, bydd angen rhoi mwy o fwyd iddo. Mae’n syniad da gynnig amrywiaeth eang o fwyd sydd mor debyg i’r bwyd y byddwch chi a’ch teulu’n ei fwyta fel arfer. Ceisiwch gynnwys eich babi yn nhrefn amser bwyd y teulu ac, os yw’n ymarferol, bwydwch eich babi pan fydd aelodau'r teulu’n bwyta.
Pa fwydydd ddylwn i eu hosgoi?
Mae angen amser ar system dreulio eich babi i addasu i’r diet newydd felly mae’n well osgoi peledu’ch babi â gormod o flasau'n rhy gyflym. Mae hefyd yn well osgoi cyflwyno bwydydd sy’n achosi alergeddau:-
- Halen – mae’n digwydd yn naturiol mewn bwyd ond ni all arennau babi ymdopi â rhagor o halen.
- Siwgr – peidiwch ag ychwanegu siwgr i brydau’ch babi gan y gall hyn annog dant melys ac arwain at bydredd dannedd. Dewiswch fwyd sydd â siwgr naturiol.
- Mêl – peidiwch â rhoi mêl nes bydd eich babi’n flwydd oed o leiaf. Yn anaml iawn, gall gynnwys bacteriwm sy’n gallu achosi salwch difrifol (botwliaeth babanod).
- Cnau – gall y rhain sbarduno alergeddau mewn rhai plant ac ni ddylid eu rhoi rhag ofn i’ch babi dagu.
- Mae Bwydydd Braster Isel – iogwrt, fromage frais, caws ac ati – yn anaddas ar gyfer babanod am fod braster yn ffynhonnell bwysig o galorïau a rhai fitaminau sydd eu hangen ar fabis.
I gael gwybodaeth fwy manwl am ddiddyfnu, ewch i wefan yr Adran Iechyd: www.dh.gov.uk
Bwyd Babi Organig ffres
Ma na falchder o fewn Pur bod ein prydau bwyd yn rhydd o:
- Dim halen neu sigwr ychwanegol
- Dim blasau new liwiau artiffisial
- Dim cadwolion artiffisial
- Dim cynnyrch GM
Dosbarthwn ni
Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.
Ar hyn o bryd rydym yn dosbarthu i’r ardaloedd cod post hyn: SA1, SA2, SA3, SA4, SA5, SA6, SA7, SA14, SA15, SA16, SA17, SA18, SA19, SA20, SA31, SA32, SA33, SA34.
Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.
Gwasanaeth gwyliau
Ar eich Gwyliau yn y De Orllewin? Os ydych chi ar eich gwyliau yn y De Orllewin a ddim am orfod treulio amser yn y gegin, gall Bwyd Babi Organig Pur eich helpu. Rydym yn cynnig gwasanaeth gwyliau lle gallwch archebu’ch prydau ymlaen llaw i gyrraedd eich llety ar ddiwrnod cyntaf eich gwyliau!
Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau eich siopa ar-lein, llenwi manylion y cyfeiriad gyda manylion eich cyrchfan gwyliau, a phennu amser dosbarthu addas.
Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau’r trefniadau, yna gallwch chi eistedd yn ôl a gadael y gweddill i ni!