Left scroll arrow Right scroll arrow

Purées Diddyfnu Organig

Mae’r purées diddyfnu wedi eu datblygu ar gyfer babis o bedwar mis (Cam 1) ymlaen.

Byddant yn dod mewn cyfrannau o 120g ac yn cynnwys dim ond ffrwythau a llysiau organig llawn maetholion wedi eu cymysgu’n purée mân.

View

Prydau Babanod Organig

Mae’r prydau wedi eu datblygu’n arbennig i ddiwallu anghenion babis o chwe mis (Cam 2) nes iddyn nhw dyfu’n plant a chaiff y ffrwythau a llysiau lleol gorau eu cyfuno â’r ffacbys a/neu gynhyrchion llaeth gorau i wneud detholiad o brydau maethlon a llawn blas o'r ansawdd orau.

View

Pwdinau Organig

Byddwn yn paratoi amrywiaeth o bwdinau fydd hefyd yn addas i’w defnyddio fel purées diddyfnu i fabanod llai.

Byddwn ni’n eu paratoi mewn potiau 120g sef un gyfran o bwdin i faban hŷn neu ddwy gyfran lai i faban sy’n cael ei ddiddyfnu.

View

Pecynnau Blasu Organig

Yn brin o amser neu’n methu penderfynu pa seigiau i’w dewis? Gadewch i ni wneud hynny drosoch chi. Dewiswch un o’n Pecynnau Blasu sy’n addas ar gyfer oedran eich babi, ac fe rown ni ddewis o seigiau at ei gilydd i chi.

View

Welcome to Pure Organic Baby Food

Mae Bwyd Babi Organig Pur yn dod o galon Cwm Gwendraeth Fach ac yn cynhyrchu amrywiaeth o purées diddyfnu organig, prydau organig i fabanod a phwdinau organig wedi’u coginio gartref ar gyfer cwsmeriaid deallus sy’n byw neu’n ymweld â De Orllewin Cymru.

* Mae arbenigwyr iechyd yn cytuno mai tua chwe mis yw’r oedran gorau ar gyfer cyflwyno bwydydd solet.

Fodd bynnag, os byddwch yn dewis diddyfnu’n gynt, mae rhai o’r cynhwysion hyn yn addas o 4 mis ymlaen – edrychwch ar y ryseitiau unigol i gael manylion

Mae’r prydau i gyd yn addas ar gyfer babis o 6 mis* fyd at 12 mis a mwy ac wedi eu gwneud gan ddefnyddio dim ond cynhwysion 100% organig. Rydym yn prynu’r rhan fwyaf o’n cynhwysion gan gyflenwyr lleol er mwyn ychwanegu unigrywiaeth “Gwnaethpwyd yng Nghymru” i’n cynnyrch.

Rydym yn darparu bwyd baban cartref fforddiadwy wedi ei wneud gyda’r pwyslais ar ddefnyddio dim ond y cynnyrch naturiol a thymhorol gorau.

Yn Pur, rydym ni’n ymfalchïo ein bod yn sicrhau bod pob pryd yn rhydd o gadwolion, blasau a lliwiau artiffisial. Ni fyddwn yn defnyddio cynhwysion wedi eu haddasu’n enetig (GM) ac ni fyddwn yn ychwanegu siwgr na halen i’r prydau.

Mae’n hawdd aildwymo ein prydau gartref gan eu bod yn dod mewn potiau sy’n addas ar gyfer ffyrnau microdon ac, er mwyn tawelwch meddwl, maen nhw’n dod mewn cynwysyddion gwrth ymyrraeth.

Caiff pob pryd ei rewi ar y diwrnod y caiff ei baratoi a chaiff ei ddosbarthu, wedi ei rewi, yn syth i’ch drws ar amser sy’n gyfleus i chi – gall hyn fod yn ystod y dydd neu gyda’r nos, yn ystod yr wythnos neu ar y penwythnos.

Bwyd Babi Organig ffres

Ma na falchder o fewn Pur bod ein prydau bwyd yn rhydd o:

  • Dim halen neu sigwr ychwanegol
  • Dim blasau new liwiau artiffisial
  • Dim cadwolion artiffisial
  • Dim cynnyrch GM

Dosbarthwn ni

Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.

Ar hyn o bryd rydym yn dosbarthu i’r ardaloedd cod post hyn: SA1, SA2, SA3, SA4, SA5, SA6, SA7, SA14, SA15, SA16, SA17, SA18, SA19, SA20, SA31, SA32, SA33, SA34.

Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.

Call 01269 871671
Gwasanaeth gwyliau

Ar eich Gwyliau yn y De Orllewin? Os ydych chi ar eich gwyliau yn y De Orllewin a ddim am orfod treulio amser yn y gegin, gall Bwyd Babi Organig Pur eich helpu. Rydym yn cynnig gwasanaeth gwyliau lle gallwch archebu’ch prydau ymlaen llaw i gyrraedd eich llety ar ddiwrnod cyntaf eich gwyliau!

Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau eich siopa ar-lein, llenwi manylion y cyfeiriad gyda manylion eich cyrchfan gwyliau, a phennu amser dosbarthu addas.

Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau’r trefniadau, yna gallwch chi eistedd yn ôl a gadael y gweddill i ni!