Sut i Archebu a Gwneud Taliad
Mae sawl ffordd hawdd i archebu, ond cofiwch fod rhaid archebu gwerth o leiaf £17.50.
Ar-lein:
Y ffordd symlaf a chyflymaf i archebu yw ar-lein. Ewch i’r ‘Siop Ar-lein’, dewiswch eich cynhyrchion a’u hychwanegu i’ch basged siopa, yna ewch ymlaen i'r man talu.
Ffôn:
Gallwch archebu dros y ffôn trwy ffonio 01269 871671. Y cyfan sydd ei angen arnom ni yw eich archeb, manylion dosbarthu a manylion talu.
E-bost:
Cwblhewch y ffurflen gyswllt i archebu, gan gynnwys eich manylion cludiant, ac yma e-bostiwch atom. Peidiwch ag e-bostio unrhyw fanylion talu gan nad yw'r ffurf yma o gyslltu yn ddiogel
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich archeb, byddwn yn cysylltu â chi i roi manylion dosbarthu i chi.
Sut i dalu:
Cardiau Credyd / Debyd Gallwch dalu â cherdyn dim ond os byddwch yn archebu ar-lein.
Talu wrth Dderbyn: byddwn yn derbyn arian parod neu sieciau wrth ddosbarthu. Dylech wneud sieciau‘n daladwy i ‘Bwyd Babi Organig Pur Cyf’.
Bwyd Babi Organig ffres
Ma na falchder o fewn Pur bod ein prydau bwyd yn rhydd o:
- Dim halen neu sigwr ychwanegol
- Dim blasau new liwiau artiffisial
- Dim cadwolion artiffisial
- Dim cynnyrch GM
Dosbarthwn ni
Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.
Ar hyn o bryd rydym yn dosbarthu i’r ardaloedd cod post hyn: SA1, SA2, SA3, SA4, SA5, SA6, SA7, SA14, SA15, SA16, SA17, SA18, SA19, SA20, SA31, SA32, SA33, SA34.
Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.
Gwasanaeth gwyliau
Ar eich Gwyliau yn y De Orllewin? Os ydych chi ar eich gwyliau yn y De Orllewin a ddim am orfod treulio amser yn y gegin, gall Bwyd Babi Organig Pur eich helpu. Rydym yn cynnig gwasanaeth gwyliau lle gallwch archebu’ch prydau ymlaen llaw i gyrraedd eich llety ar ddiwrnod cyntaf eich gwyliau!
Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau eich siopa ar-lein, llenwi manylion y cyfeiriad gyda manylion eich cyrchfan gwyliau, a phennu amser dosbarthu addas.
Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau’r trefniadau, yna gallwch chi eistedd yn ôl a gadael y gweddill i ni!