Pwdinau Organig

Byddwn yn paratoi amrywiaeth o bwdinau fydd hefyd yn addas i’w defnyddio fel purées diddyfnu i fabanod llai.

Byddwn ni’n eu paratoi mewn potiau 120g sef un gyfran o bwdin i faban hŷn neu ddwy gyfran lai i faban sy’n cael ei ddiddyfnu. Mae’r pwdinau’n ddigon llyfn i'w hychwanegu i reis, grawnfwyd brecwast, iogwrt a/neu bwdin reis er mwyn cyflwyno peth ffrwythau iachus i ddiet dyddiol y babi.

Mango a Banana (120g)

Mae mangos aeddfed, suddog, yn ffrwyth naturiol felys ac yn hawdd eu treulio, ac mae’r saig hwn, sy’n eu cyfuno â bananas yn cynnig purée neu bwdin diddyfnu blasus, egsotig, llawn fitaminau i’w ychwanegu i restr eich un bach.


Mango (54%) Banana (46%)

Yn Darparu: Fitamin A, Fitamin C, Fitamin B6, Ffolad, Potasiwm.

Pris: £1.50

Afalau, Gellyg a Sinamon (120g)

Mae’r purée ffrwythau hwn yn bryd cyntaf delfrydol i’ch babi pan fydd yn diddyfnu. Dim ond y ffrwythau mwyaf melys gaiff eu defnyddio a thaenellir ychydig bach o sinamon drosto i roi ychydig o hwb iddo. Mae purées ffrwythau fel arfer ychydig bach yn deneuach na purées llysiau, ond gallwch ychwanegu llwyaid o reis babi (organig, wrth gwrs) i dewychu'r purée.


Afalau (58%), Gellyg (42%), Sinamon Mâl

Yn Darparu: Fitamin A, Fitamin C, Fitamin K, Calsiwm

Pris: £1.50

Afalau a Banana (120g)

Mae bananas yn ffefryn gan fabis sy'n diddyfnu ers amser maith, nid yn unig oherwydd eu blas naturiol felys ond oherwydd eu bod yn hawdd i fabi eu treulio. Mae’r saig hwn, sy’n eu cyfuno â’r afalau mwyaf melys, yn llawn o’r fitaminau hollbwysig sydd eu hangen ar fabis


Banana (59%), Afalau (41%)

Yn Darparu: Fitamin A, Fitamin C, Fitamin B6, Ffolad, Potasiwm.

Pris: £1.50

Llus America, Banana a Fanila (6+mis) (120g)

Mae cynnwys gwrthocsidyddion llus America, fel pob ffrwyth, yn uchel oherwydd y pigment glas anthosyanin yn eu crwyn. Dyna pam nad ydym ni’n gwneud mwy na chymysgu’r llus a’r bananas at ei gilydd ac yn ychwanegu ychydig o fanila er mwyn peidio â cholli dim o’r maetholion wrth eu coginio.


Banana (78%), Llus America (22%), Hadau Fanila

Yn Darparu: Fitamin C, Fitamin B6, Fitamin K, Ffolad, Potasiwm

Pris: £1.50

Pwdin Reis gyda Fanila (6+ mis) (120g)

Allwch chi ddim methu gydag un o hen ffefrynnau mam. Rydym yn gwneud ein pwdin reis gan ddefnyddiol llaeth cyflawn 100% organig - gan sicrhau bod eich babi’n cael digon o fitaminau iach i gadw ei gorff yn gweithio’n dda, a chalsiwm ar gyfer esgyrn cryfach ac iachach. Mae’r pwdin yn flasus ar ei ben ei hun, neu gallwch ei gyfuno ag unrhyw un o’r purées ffrwythau i wneud pwdin mwy blasus fyth.


Llaeth Cyflawn (92%), Reis Pwdin (8%), Hadau Fanila

Yn Darparu: Fitamin A, Fitamin D, Fitamin B12, Fitamin B2, Calsiwm

Pris: £1.50

Bwyd Babi Organig ffres

Ma na falchder o fewn Pur bod ein prydau bwyd yn rhydd o:

  • Dim halen neu sigwr ychwanegol
  • Dim blasau new liwiau artiffisial
  • Dim cadwolion artiffisial
  • Dim cynnyrch GM

Dosbarthwn ni

Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.

Ar hyn o bryd rydym yn dosbarthu i’r ardaloedd cod post hyn: SA1, SA2, SA3, SA4, SA5, SA6, SA7, SA14, SA15, SA16, SA17, SA18, SA19, SA20, SA31, SA32, SA33, SA34.

Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.

Call 01269 871671
Gwasanaeth gwyliau

Ar eich Gwyliau yn y De Orllewin? Os ydych chi ar eich gwyliau yn y De Orllewin a ddim am orfod treulio amser yn y gegin, gall Bwyd Babi Organig Pur eich helpu. Rydym yn cynnig gwasanaeth gwyliau lle gallwch archebu’ch prydau ymlaen llaw i gyrraedd eich llety ar ddiwrnod cyntaf eich gwyliau!

Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau eich siopa ar-lein, llenwi manylion y cyfeiriad gyda manylion eich cyrchfan gwyliau, a phennu amser dosbarthu addas.

Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau’r trefniadau, yna gallwch chi eistedd yn ôl a gadael y gweddill i ni!