Prydau Babanod Organig (6+mis)

Mae’r prydau wedi eu datblygu’n arbennig i ddiwallu anghenion babis o chwe mis (Cam 2) nes iddyn nhw dyfu’n plant a chaiff y ffrwythau a llysiau lleol gorau eu cyfuno â’r ffacbys a/neu gynhyrchion llaeth gorau i wneud detholiad o brydau maethlon a llawn blas o'r ansawdd orau.

Daw’r prydau mewn cyfrannau hael o 175g, sy’n ddigon i wneud dau bryd i fabi llai neu un pryd i blentyn. Mae’r cynhwysion yn ein prydau 175g ychydig bach yn fwy; fel hyn gallwch chi’n hawdd stwnsio’r bwyd â fforc ar ôl ei gynhesu i’r union ansawdd sydd orau gan eich babi, neu ei adael fel y mae i blant hŷn sy’n hoffi cael rhywbeth i’w gnoi.

Uwd Ceirch a Gellyg (175g)

Bydd y brecwast iachus hwn yn caniatáu i chi gyflwyno ansoddau mwy garw i’ch babi ond gyda’r gellyg mae’n darparu blas melys a sawrus hyfryd. Mae hwn yn llawn fitaminau a maetholion a bydd yn ddechrau da iawn i’r dydd


Llaeth Cyflawn (63%), Gellyg (21%) Ceirch Uwd (16%)

Yn Darparu: Fitamin A, Fitamin C, Fitamin B12, Fitamin K, Ffolad, Calsiwm, Protein

Pris: £2.10

Pasta gyda Saws Llysiau (175g)

Mae’r sêr pasta bychain yn y saig hon yn ffordd ddelfrydol o gyflwyno ansoddau newydd i’ch babi. Bydd y saws tomato a’r llysiau blasus eraill yn darparu gwrthocsidyddion pwerus i’ch babi sy’n help i warchod yn erbyn clefyd y galon a chancr.


Moron (23%), Tomato (22%), Cennin (8%), Caws Cheddar (6%), Pys (4%), Sêr Pasta (2%), Dwr, Menyn

Yn Darparu: Beta Caroten, Fitamin A, Fitamin C, Potasiwm, Fitamin B6, Haearn, Sinc

Pris: £2.10

Pasta gyda Phwmpen Cnau Menyn (175g)

Mae’r sêr pasta pert yn y saig hon yn cyfuno’n dda â’r tomatos melys i wneud saig syml ond maethlon i fodloni’r archwaeth leiaf.


Pwmpen Cnau Menyn (50%), Tomatos (38%), Sêr Pasta (7%), Caws Cheddar (5%)

Yn Darparu: Beta Caroten, Potasiwm, Fitamin C, Fitamin A, Fitamin B6, Calsiwm, Haearn

Pris: £2.10

Tatws Melys, Sbigoglys a Phys (175g)

Mae sbigoglys yn ffynhonnell dda o Feta Caroten a Fitamin C a thrwy ei gyfuno â llysieuyn melys, mae’n ffordd dda i gyflwyno llysiau gwyrdd iachus i ddiet eich babi.


Tatws Melys (43%), Sbigoglys (9%), Cennin (6%), Pys (6%), Menyn Gwyrf, Dwr

Yn Darparu: Beta Caroten, Fitamin C, Haearn, Fitamin A, Ffolad, Protein

Pris: £2.10

Caws Macaroni (175g)

Mae Pasta’n fwyd egni rhagorol ac mae ei weini gyda saws caws blasus yn ffordd dda arall o gyflwyno ansawdd i ddiet eich babi. Mae’r tiwbiau macaroni bach yn ddigon meddal i fabis hyn eu cnoi ond efallai byddwch chi am gymysgu’r saig i drwch sy'n addas ar gyfer eich babi.


Llaeth Cyflawn (60%), Caws Cheddar (20%), Pasta Macaroni (13%), Menyn Gwyrf, Flour

Yn Darparu: Sinc, Fitamin B2, Fitamin B12, Calsiwm, Fitamin A, Haearn.

Pris: £2.10

Sbigoglys, Cennin a Phannas (175g)

Saig iachus sy'n cyfuno'r llysiau gwyrddaf a mwyaf melys â chaws ac yn darparu ffynhonnell grynodedig o galorïau sy'n bwysig ar gyfer tyfu.


Tatws (38%), Sbigoglys (15%), Pannas (15%), Cennin (15%), Caws Cheddar (6%), Dwr, Menyn Gwyrf

Yn Darparu: Fitamin A, Fitamin C, Fitamin E, Calsiwm, Haearn, Protein, Ffolad, Potasiwm

Pris: £2.10

Lasagne Sbigoglys, Tomato a Chaws (175g)

Pwy all wrthsefyll y lasagne blasus yma, sy’n llawn blas ac yn cael ei bobi’n araf yn y ffwrn er mwyn cadw cymaint â phosibl o’r daioni. Mae’n llawn o’r fitaminau a maetholion hanfodol sydd eu hangen ar fabis sy’n tyfu.


Sbigoglys (32%), Llaeth Cyflawn (29%), Tomato (9%), Lasagne (6%), Caws Cheddar (5%).

Yn Darparu: Fitamin A, Fitamin C, Fitamin B6, Calsiwm, Haearn, Protein, Ffolad, Sinc

Pris: £2.10

Bwyd Babi Organig ffres

Ma na falchder o fewn Pur bod ein prydau bwyd yn rhydd o:

  • Dim halen neu sigwr ychwanegol
  • Dim blasau new liwiau artiffisial
  • Dim cadwolion artiffisial
  • Dim cynnyrch GM

Dosbarthwn ni

Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.

Ar hyn o bryd rydym yn dosbarthu i’r ardaloedd cod post hyn: SA1, SA2, SA3, SA4, SA5, SA6, SA7, SA14, SA15, SA16, SA17, SA18, SA19, SA20, SA31, SA32, SA33, SA34.

Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.

Call 01269 871671
Gwasanaeth gwyliau

Ar eich Gwyliau yn y De Orllewin? Os ydych chi ar eich gwyliau yn y De Orllewin a ddim am orfod treulio amser yn y gegin, gall Bwyd Babi Organig Pur eich helpu. Rydym yn cynnig gwasanaeth gwyliau lle gallwch archebu’ch prydau ymlaen llaw i gyrraedd eich llety ar ddiwrnod cyntaf eich gwyliau!

Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau eich siopa ar-lein, llenwi manylion y cyfeiriad gyda manylion eich cyrchfan gwyliau, a phennu amser dosbarthu addas.

Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau’r trefniadau, yna gallwch chi eistedd yn ôl a gadael y gweddill i ni!