>Purées Diddyfnu Organig (4+ mis
Mae’r purées diddyfnu wedi eu datblygu ar gyfer babis o bedwar mis (Cam 1) ymlaen.
Byddant yn dod mewn cyfrannau o 120g ac yn cynnwys dim ond ffrwythau a llysiau organig llawn maetholion wedi eu cymysgu’n purée mân.
Pwmpen Cnau Menyn ac Afal (120g)
Efallai bod cymysgu ffrwythau a llysiau’n swnio’n rhyfedd ond mae melyster naturiol yr afal wedi ei gymysgu â’r bwmpen cnau menyn yn ffordd dda i annog babis i fwyta llysiau.
Pwmpen Cnau Menyn (77%), Afal (23%)
Yn Darparu: Beta Caroten, Fitamin A, Fitamin C, Calsiwm, Haearn.
Tatws Melys a Moron (120g)
Mae moron yn fwyd diddyfnu ardderchog oherwydd eu blas naturiol felys ac mae tatws melyn yn gyffredinol yn llawnach o faetholion na thatws cyffredin. Mae’r saig hwn yn eu cyfuno â chnawd orenaidd y daten felys, ac yn ffynhonnell ardderchog o Feta Caroten sy’n wrthocsidydd pwerus.
Tatws Melys (73%), Moron (27%)
Yn Darparu: Beta Caroten, Fitamin C, Fitamin A, Calsiwm, Haearn.
Moron, Tatws a Phannas (120g)
Mae’r Gwreiddlysiau yn y saig hon yn gwneud purée diddyfnu arbennig am eu bod yn naturiol yn blasu'n felys, maen nhw’n annhebygol o achosi alergeddau ac maen nhw’n llawn dop ô’r maetholion da sydd eu hangen ar fabis sy’n cael eu diddyfnu.
Tatws (37%), Moron (37%), Pannas (26%)
Yn Darparu: Beta Caroten, Fitamin A, Fitamin C, Calsiwm, Ffolad
Tatws, Cennin a Phys (120g)
Mae’r saig hwn yn caniatáu i chi ddechrau cyflwyno blas llysiau gwyrdd i’ch babi yn gynnar a, chan fod pys yn arbennig o lawn o haearn, maen nhw nid yn unig yn helpu i ddatblygu chwaeth y babi, ond hefyd yn helpu i gynyddu ymwrthedd i heintiau
Tatws (31%), Pys (11%), Cennin (9%), Menyn Gwyrf (5%), Dwr
Yn Darparu: Ffolad Haearn, Fitamin A, Fitamin C, Fitamin K, Calsiwm
Bwyd Babi Organig ffres
Ma na falchder o fewn Pur bod ein prydau bwyd yn rhydd o:
- Dim halen neu sigwr ychwanegol
- Dim blasau new liwiau artiffisial
- Dim cadwolion artiffisial
- Dim cynnyrch GM
Dosbarthwn ni
Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.
Ar hyn o bryd rydym yn dosbarthu i’r ardaloedd cod post hyn: SA1, SA2, SA3, SA4, SA5, SA6, SA7, SA14, SA15, SA16, SA17, SA18, SA19, SA20, SA31, SA32, SA33, SA34.
Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.
Gwasanaeth gwyliau
Ar eich Gwyliau yn y De Orllewin? Os ydych chi ar eich gwyliau yn y De Orllewin a ddim am orfod treulio amser yn y gegin, gall Bwyd Babi Organig Pur eich helpu. Rydym yn cynnig gwasanaeth gwyliau lle gallwch archebu’ch prydau ymlaen llaw i gyrraedd eich llety ar ddiwrnod cyntaf eich gwyliau!
Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau eich siopa ar-lein, llenwi manylion y cyfeiriad gyda manylion eich cyrchfan gwyliau, a phennu amser dosbarthu addas.
Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau’r trefniadau, yna gallwch chi eistedd yn ôl a gadael y gweddill i ni!