Ein credau
Polisi Amgylcheddol
Mae Pur yn awyddus i gynorthwyo i warchod yr amgylchedd a’r gymuned ar yr un pryd â chefnogi’r economi leol. Wrth wraidd ein credau mae’r dymuniad i gyfrannu’n bositif at fuddion cymdeithasol, amgylcheddol, iechyd ac economaidd cynhyrchu a dosbarthu bwyd organig trwy ddatblygu cysylltiadau bwyd lleol:
- Rydym wedi datblygu polisi fydd yn ein galluogi i weithio tuag at amgylchedd mwy cynaliadwy.
- Cefnogi’r ethos o ailgylchu ymhellach trwy gynnig casglu cynwysyddion wedi’u defnyddio am ddim adeg dosbarthu
Polisi Iaith Gymraeg
Mae cyflogwyr a gweithwyr yn cydnabod manteision economaidd yr Iaith Gymraeg fwyfwy.
Ledled Cymru mae mwy a mwy o gyflogwyr – yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol – mewn ymateb i ddisgwyliadau cynyddol eu cwsmeriaid yn dod yn ymwybodol o fanteision defnyddio’r iaith, er enghraifft:
- Gwella ansawdd gwasanaethau cwsmeriaid
- Denu cwsmeriaid newydd
- Cynyddu ymlyniad cwsmeriaid
- Harneisio ewyllys da am gost gymharol isel
- Cael mantais farchnata dros gystadleuwyr
- Gwella ymdrechion cysylltiadau cyhoeddus
Bydd Pur yn mabwysiadu Polisi Iaith Gymraeg i hyrwyddo gwreiddiau Cymreig y cwmnni.
Bwyd Babi Organig ffres
Ma na falchder o fewn Pur bod ein prydau bwyd yn rhydd o:
- Dim halen neu sigwr ychwanegol
- Dim blasau new liwiau artiffisial
- Dim cadwolion artiffisial
- Dim cynnyrch GM
Dosbarthwn ni
Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.
Ar hyn o bryd rydym yn dosbarthu i’r ardaloedd cod post hyn: SA1, SA2, SA3, SA4, SA5, SA6, SA7, SA14, SA15, SA16, SA17, SA18, SA19, SA20, SA31, SA32, SA33, SA34.
Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.
Gwasanaeth gwyliau
Ar eich Gwyliau yn y De Orllewin? Os ydych chi ar eich gwyliau yn y De Orllewin a ddim am orfod treulio amser yn y gegin, gall Bwyd Babi Organig Pur eich helpu. Rydym yn cynnig gwasanaeth gwyliau lle gallwch archebu’ch prydau ymlaen llaw i gyrraedd eich llety ar ddiwrnod cyntaf eich gwyliau!
Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau eich siopa ar-lein, llenwi manylion y cyfeiriad gyda manylion eich cyrchfan gwyliau, a phennu amser dosbarthu addas.
Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau’r trefniadau, yna gallwch chi eistedd yn ôl a gadael y gweddill i ni!