Telerau ac Amodau
Ein Contract
Mae’r Telerau ac Amodau hyn yn rheoli cyflenwi nwyddau a werthi gan Bwyd Babi Organig Pur Cyf (“ni”) i’r cwsmer (“chi”) a’r rhai yw’r cytundeb cyfan a’r unig gytundeb rhyngom ni mewn perthynas â hynny.
Manylion Cyswllt:
Bwyd Babi Organig Pur Cyfyngedig
Glan-nant
Llangyndeyrn
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 5BW.
Ffôn: 01269 871671
E-bost: Cysylltwch a ni
Gwe: www.pureorganicbabyfood.co.uk
Mae pob archeb yn amodol ar gael ei dderbyn gennym ni ac ar dderbyn y nwyddau gennych chi a phryd hynny crëir contract cyfrwymol rhyngom. Nid yw prosesu’ch taliad a chydnabod eich archeb yn golygu derbyn eich archeb yn gyfreithiol.
Pris a Thâl
Rhaid inni dderbyn tâl am bris cyfan y nwyddau y byddwch yn eu harchebu ac unrhyw daliadau perthnasol ar gyfer cludiant. Byddwn yn derbyn taliadau â cherdyn credyd/debyd ar gyfer archebion trwy’r siop ar-lein. Fel arall, bydd angen talu ag arian parod neu siec pan ddosbarthir yr archeb.
O bryd i’w gilydd, gall fod gwall ar ein gwefan a dangosir y pris anghywir ar gyfer nwyddau. Dan yr amgylchiadau hyn, ni fydd gorfodaeth arnom i gyflenwi’r nwyddau am y pris anghywir.
Os bydd eich archeb yn cynnwys unrhyw gynhyrchion nad ydynt ar gael, byddwn yn cysylltu â chi i drafod a chytuno ar gynnyrch arall sy’n gyfwerth â’ch archeb. Os na fydd y dewis arall yn addas, byddwn yn tynnu gwerth y cynhyrchion oddi wrth eich archeb. Os na fyddwn yn gallu cysylltu â chi, byddwn yn anfon yr holl eitemau sydd ar gael ac yn ad-dalu gwerth yr eitemau nad oeddynt ar gael yn awtomatig.
Dosbarthu
Gwnawn ein gorau i ddosbarthu ar adeg sydd fwyaf cyfleus i chi; gall hyn fod yn noson, diwrnod yn yr wythnos neu ar y penwythnos. Gan fod y nwyddau’n cyrraedd wedi'u rhewi, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod rhywun gartref i’w derbyn.
Ar ôl derbyn eich archeb, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu dosbarthu ar adeg pan fydd rhywun gartref i dderbyn y nwyddau.
Trwy archebu, rydych yn cydnabod bod y nwyddau’n cael eu dosbarthu wedi eu rhewi a’u bod yn ddarfodus ac felly, er mwyn eu cadw’n rhewedig tan eich bod yn barod i’w defnyddio, rhaid eu rhoi mewn rhewgell yn syth ar ôl eu derbyn.
Codir tâl dosbarthu yn ôl eich lleoliad:-
- Codau Post SA1 i SA7 tâl dosbarthu o £5.95 yr archeb
- Codau Post SA14 i SA34 tâl dosbarthu o £3.95 yr archeb
Canslo a Dychwelyd
Gallwch ganslo’ch archeb trwy roi hysbysiad canslo inni o fewn 24 awr i’r dyddiad dosbarthu. Gellir rhoi’r cyfryw hysbysiad trwy ffôn, post neu e-bost.
Os na fyddwch yn fodlon â’r nwyddau a dderbyniwch, byddwch cystal â chysylltu â’r cwmni’n syth ar 01269 871671 a byddwn yn amnewid y nwyddau am ddim neu’n cynnig ad-daliad ar gyfer y nwyddau anfoddhaol.
Polisi Cwynion
Os ydych am wneud cwyn, dylech roi cymaint â phosibl o wybodaeth am natur eich cwyn ac e-bostio Cysylltwch a ni
Polisi Preifatrwydd
Ni fydd Bwyd Babi Organig Pur Cyfyngedig yn datgelu gwybodaeth prynwyr i drydydd partïon ac eithrio pan brosesir manylion archebu fel rhan o gyflawni’r archeb. Yn yr achos hwn, ni fydd y trydydd parti’n datgelu dim o’r manylion i drydydd parti arall.
Cyffredinol
Os bydd unrhyw ran o’r amodau hyn yn annilys, anghyfreithlon neu’n anorfodadwy (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth lle byddwn yn eithrio ein hatebolrwydd i chi) ni effeithir ar ddilysrwydd, cyfreithlondeb na gorfodadwyedd unrhyw ran arall o’r amodau hyn. Rheolir a dadansoddir y contract hwn yn unol â chyfraith Lloegr.
Bwyd Babi Organig ffres
Ma na falchder o fewn Pur bod ein prydau bwyd yn rhydd o:
- Dim halen neu sigwr ychwanegol
- Dim blasau new liwiau artiffisial
- Dim cadwolion artiffisial
- Dim cynnyrch GM
Dosbarthwn ni
Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.
Ar hyn o bryd rydym yn dosbarthu i’r ardaloedd cod post hyn: SA1, SA2, SA3, SA4, SA5, SA6, SA7, SA14, SA15, SA16, SA17, SA18, SA19, SA20, SA31, SA32, SA33, SA34.
Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.
Gwasanaeth gwyliau
Ar eich Gwyliau yn y De Orllewin? Os ydych chi ar eich gwyliau yn y De Orllewin a ddim am orfod treulio amser yn y gegin, gall Bwyd Babi Organig Pur eich helpu. Rydym yn cynnig gwasanaeth gwyliau lle gallwch archebu’ch prydau ymlaen llaw i gyrraedd eich llety ar ddiwrnod cyntaf eich gwyliau!
Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau eich siopa ar-lein, llenwi manylion y cyfeiriad gyda manylion eich cyrchfan gwyliau, a phennu amser dosbarthu addas.
Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau’r trefniadau, yna gallwch chi eistedd yn ôl a gadael y gweddill i ni!