Terms of Usage

Perchnogaeth y Wefan; Cytuno â’r Telerau Defnyddio Mae’r Telerau ac Amodau Defnyddio hyn (y “Telerau Defnyddio”) yn berthnasol i wefan Bwyd Babi Organig Pur.

Mae Bwyd Babi Organig Pur Cyf yn cadw’r hawl, i newid, addasu, ychwanegu neu dynnu darnau o’r Telerau Defnyddio hyn yn annibynnol, ar unrhyw adeg. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio’r Telerau Defnyddio hyn am newidiadau o bryd i’w gilydd. Trwy barhau i ddefnyddio’r Safle ar ôl i newidiadau gael eu huwchlwytho, byddwch yn derbyn ac yn cytuno i’r newidiadau. Cyhyd ag y byddwch yn cydymffurfio â’r Telerau Defnyddio hyn, mae Bwyd Babi Organig Pur Cyf yn rhoi hawl bersonol, anallgynhwysol, anhrosglwydd, gyfyngedig i chi i fynd i mewn i’r Wefan a’i defnyddio.

Cynnwys:
Mae pob testun, graffeg, rhyngwyneb defnyddiwr, ffotograff, nod masnach, logo, celfwaith a chod cyfrifiadurol (a elwir gyda’i gilydd yn “Gynnwys”), gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gynllun, strwythur, dewis, cydlyniad, mynegiant, “edrychiad a theimlad” a threfniad y cyfryw Gynnwys, a gynhwysir ar y Wefan yn eiddo i, yn cael ei reoli neu ei drwyddedu gan neu i Bwyd Babi Organig Pur Cyf, ac wedi ei warchod gan gyfreithiau hawlfraint, patent a nod masnach, ac amrywiol hawliau eiddo deallusol a chyfreithiau cystadleuaeth annheg eraill.

Ac eithrio fel y darperir yn unig swydd yn y Telerau Defnyddio hyn, ni cheir copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, uwchlwytho, postio, dangos yn gyhoeddus, amgodio, cyfieithu, trosglwyddo na dosbarthu mewn unrhyw ffordd (gan gynnwys “adlewyrchu”) unrhyw ran o’r Wefan nac unrhyw Gynnwys i unrhyw gyfrifiadur, gweinyddwr, gwefan neu unrhyw gyfrwng arall i’w gyhoeddi neu ei ddosbarthu nac ar gyfer unrhyw fenter fasnachol heb gael caniatâd penodol ysgrifenedig Bwyd Babi Organig Pur ymlaen llaw.

Eich Defnydd o’r Wefan:
Ni chewch ddefnyddio unrhyw “ddolen ddofn”, “cribwr tudalen”, “robot”, “corryn” nac unrhyw ddyfais awtomatig, rhaglen, algorithm neu fethodoleg, nac unrhyw broses law gyfatebol, i gael mynediad i, cael, copïo neu fonitro unrhyw ran o’r Wefan nac unrhyw Gynnwys, neu i atgynhyrchu neu drechu mewn unrhyw ffordd strwythur mordwyol neu gyflwyniad y Wefan nac unrhyw Gynnwys, er mwyn cael neu geisio cael unrhyw ddeunyddiau, dogfennau neu wybodaeth trwy unrhyw ddull nad yw’r Wefan yn ei ganiatáu’n fwriadol. Ceidw Bwyd Babi Organig Pur Cyf yr hawl i wahardd unrhyw weithgaredd o’r fath. Ni chewch geisio cael mynediad heb ganiatâd i unrhyw ran na nodwedd o’r Wefan, nac unrhyw systemau neu rwydweithiau sy’n gysylltiedig â’r Wefan nac i unrhyw weinyddwr o eiddo Bwyd Babi Organig Pur Cyf, nac i unrhyw wasanaeth a gynigir ar neu drwy’r Wefan, trwy hacio, “cloddio” cyfrineiriau nac unrhyw ddull anghyfreithlon arall.

Ni chewch archwilio, sganio na phrofi gwendid y Wefan neu unrhyw rwydwaith cysylltiedig â’r Wefan, na thorri’r mesurau diogelwch neu ddilysu ar y Wefan neu unrhyw rwydwaith cysylltiedig â’r Wefan. Ni chewch am-edrych am yn ôl, olrhain na cheisio olrhain i’w ffynhonnell unrhyw wybodaeth am unrhyw ddefnyddiwr arall neu ymwelydd â’r Wefan, na neb arall o gwsmeriaid Bwyd Babi Organig Pur Cyf, gan gynnwys unrhyw gyfrif Bwyd Babi Organig Pur Cyf nad yw’n eiddo i chi, nac ymelwa ar y Wefan nac unrhyw wasanaeth neu wybodaeth sydd ar gael neu a gynigir gan neu drwy’r Wefan, mewn unrhyw ffordd gyda’r bwriad o ddatgelu unrhyw wybodaeth, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i adnabod neu wybodaeth bersonol, ar wahân i’ch gwybodaeth eich hun, fel y darperir ar ei gyfer gan y Wefan.

Rydych yn cytuno na fyddwch yn cymryd unrhyw gamau sy’n gosod baich afresymol neu anghymesur o fawr ar seilwaith y Wefan neu systemau neu rwydweithiau Bwyd Babi Organig Pur Cyf, neu unrhyw systemau neu rwydweithiau cysylltiedig â’r Wefan neu â Bwyd Babi Organig Pur Cyf.

Rydych yn cytuno na fyddwch yn defnyddio unrhyw ddyfais, meddalwedd neu reolwaith i ymyrryd neu geisio ymyrryd â gweithrediad cywir y Wefan neu unrhyw drafodyn ar y Wefan, nac â defnydd neb arall o’r Wefan.
Ni chewch ffugio penawdau na thrin dynodwyr fel arall er mwyn cuddio tarddiad unrhyw neges neu drosglwyddiad yr anfonwch at Bwyd Babi Organig Pur Cyf ar neu drwy’r Wefan nac unrhyw wasanaeth a gynigir ar neu drwy’r Wefan. Ni chewch esgus eich bod yn rhywun arall, nac eich bod yn cynrychioli rhywun arall, na phersonadu unrhyw unigolyn neu endid arall.

Ni chewch ddefnyddio’r Wefan nac unrhyw Gynnwys at unrhyw ddiben sy’n anghyfreithlon neu a waherddir gan y Telerau Defnyddio hyn, neu i geisio unrhyw weithgaredd anghyfreithlon neu weithgaredd arall sy’n torri ar hawliau Bwyd Babi Organig Pur Cyf neu eraill.

Bwyd Babi Organig ffres

Ma na falchder o fewn Pur bod ein prydau bwyd yn rhydd o:

  • Dim halen neu sigwr ychwanegol
  • Dim blasau new liwiau artiffisial
  • Dim cadwolion artiffisial
  • Dim cynnyrch GM

Dosbarthwn ni

Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.

Ar hyn o bryd rydym yn dosbarthu i’r ardaloedd cod post hyn: SA1, SA2, SA3, SA4, SA5, SA6, SA7, SA14, SA15, SA16, SA17, SA18, SA19, SA20, SA31, SA32, SA33, SA34.

Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.

Call 01269 871671
Gwasanaeth gwyliau

Ar eich Gwyliau yn y De Orllewin? Os ydych chi ar eich gwyliau yn y De Orllewin a ddim am orfod treulio amser yn y gegin, gall Bwyd Babi Organig Pur eich helpu. Rydym yn cynnig gwasanaeth gwyliau lle gallwch archebu’ch prydau ymlaen llaw i gyrraedd eich llety ar ddiwrnod cyntaf eich gwyliau!

Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau eich siopa ar-lein, llenwi manylion y cyfeiriad gyda manylion eich cyrchfan gwyliau, a phennu amser dosbarthu addas.

Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau’r trefniadau, yna gallwch chi eistedd yn ôl a gadael y gweddill i ni!