Pam Organig?

Mae’r cyfryngau’n rhoi llawer o sylw i bwysigrwydd bwyta bwyd organig – rym ni’n gwybod y dylwn ni fod yn bwyta cynnyrch organig ond ddim o reidrwydd yn gwybod pam y dylwn ni fod yn ei fwyta! Rym ni wedi trio esbonio’n syml y rhesymau pam ein bod ni’n teimlo dylai pobl fwyta bwyd organig ac, yn bwysicach byth, pam y dylem ni fod yn dewis prydau organig i’n plant.

Pam Organig?

  • mae’n iach gan fod bwyd organig, ar gyfartaledd, yn cynnwys lefelau uwch o fitamin C a mwynau hanfodol fel calsiwm, magnesiwm, haearn a chromiwm, yn ogystal â gwrthocsidyddion;
  • Nid yw bwyd organig yn cynnwys ychwanegion, sy’n gallu achosi problemau iechyd fel clefyd y galon, osteoporosis a gorfywiogrwydd;
  • Dim plaladdwyr, mae dros 400 o blaladdwyr cemegol yn cael eu defnyddio’n rheolaidd mewn ffermio confensiynol, ac yn ddiweddar mae llywodraeth Prydain wedi dod o hyd i lefelau uchel o waddodion plaladdwyr mewn bwyd babanod.
  • O dan safonau organig, mae cnydau a chynhwysion wedi’u haddasu’n enetig (GM) wedi eu gwahardd;
  • Safonau uchel, mae bwyd organig yn dod o ffynonellau dibynadwy. Caiff pob fferm a chwmni bwyd organig ei archwilio o leiaf unwaith y flwyddyn ac mae cyfraith Ewropeaidd yn pennu Safonau bwyd organig;
  • Mae llawer o bobl yn dweud bod yn well ganddyn nhw fwyd organig am ei fod yn blasu’n well.

Ffynhonnell: Pure Organics 2007.

Pam dewis organig i’ch plant?
Mae’r rheoliadau presennol ar gyfer faint o waddodion plaladdwyr gall bwydydd nad ydyn nhw’n organig eu cynnwys yn seiliedig ar lefelau ‘derbyniol’ ar gyfer oedolion. Fodd bynnag, mae babis a phlant bach mewn mwy o berygl oherwydd bod anaeddfedrwydd eu horganau a systemau eu cyrff yn golygu eu bod yn fwy agored i niwed gan docsinau.

Oherwydd bod plant yn aml yn bwyta dim ond ychydig fathau o fwydydd heb eu prosesu cymaint – er enghraifft afalau, tatws neu foron – mae’n bosibl eu bod yn amlyncu mwy o docsinau. Mae plant ar eu mwyaf bregus rhwng cenhedlu a blwydd oed. Yn ystod y cyfnod datblygu critigol hwn, mae celloedd yn lluosogi ar eu cyflymaf, eto dim ond ymborth cyfyngedig sydd gan y corff fel tanwydd.

Mae system dreulio babi hefyd lawer yn amsugno bwydydd llawer yn fwy effeithiol nag oedolyn, sy’n caniatáu iddo ddefnyddio maetholion yn gynt, ond hefyd yn gadael y corff yn fwy agored i niwed gan docsinau. Nid yw arennau anaeddfed yn ysgarthu sylweddau niweidiol mor effeithiol, felly gall y rhain gylchredeg yn y corff am yn hwy.

Hyd yn hyn does neb yn gwybod pa effaith gall peirianneg enetig ei chael ar gynhyrchion bwyd ac iechyd y rhai sy’n eu bwyta. Felly y ffordd orau i’ch diogelu’ch hunan a’ch babi rhag problemau posibl yw dewis cynnyrch organig. Caiff bwydydd organig eu cynhyrchu heb gynhwysion wedi’u haddasu’n enetig.

Ffynhonnell: Cymdeithas y Pridd

Bwyd Babi Organig ffres

Ma na falchder o fewn Pur bod ein prydau bwyd yn rhydd o:

  • Dim halen neu sigwr ychwanegol
  • Dim blasau new liwiau artiffisial
  • Dim cadwolion artiffisial
  • Dim cynnyrch GM

Dosbarthwn ni

Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.

Ar hyn o bryd rydym yn dosbarthu i’r ardaloedd cod post hyn: SA1, SA2, SA3, SA4, SA5, SA6, SA7, SA14, SA15, SA16, SA17, SA18, SA19, SA20, SA31, SA32, SA33, SA34.

Dosbarthu am ddim ar bob archeb dros £45.

Call 01269 871671
Gwasanaeth gwyliau

Ar eich Gwyliau yn y De Orllewin? Os ydych chi ar eich gwyliau yn y De Orllewin a ddim am orfod treulio amser yn y gegin, gall Bwyd Babi Organig Pur eich helpu. Rydym yn cynnig gwasanaeth gwyliau lle gallwch archebu’ch prydau ymlaen llaw i gyrraedd eich llety ar ddiwrnod cyntaf eich gwyliau!

Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau eich siopa ar-lein, llenwi manylion y cyfeiriad gyda manylion eich cyrchfan gwyliau, a phennu amser dosbarthu addas.

Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau’r trefniadau, yna gallwch chi eistedd yn ôl a gadael y gweddill i ni!